0 Members and 12 Guests are viewing this topic.
Tell you what ~ We wouldn't need to sing if BM fixed the lock on the bog door!
Quote from: Darwins Selection on March 23, 2011, 06:43:18 AMQuote from: Miss Demeanor on March 23, 2011, 06:21:34 AM 200 miles Are you wind powered ?You're just bean clever there .......... That sounds like half baked reply
Quote from: Miss Demeanor on March 23, 2011, 06:21:34 AM 200 miles Are you wind powered ?You're just bean clever there ..........
200 miles Are you wind powered ?
Quote from: Darwins Selection on March 23, 2011, 06:43:18 AMQuote from: Miss Demeanor on March 23, 2011, 06:21:34 AM 200 miles Are you wind powered ?Have you not heard the term "Pulse jet" ?You're just bean clever there ..........
Quote from: Miss Demeanor on March 23, 2011, 06:21:34 AM 200 miles Are you wind powered ?Have you not heard the term "Pulse jet" ?
Quote from: apc2010 on March 23, 2011, 06:44:28 AMQuote from: Darwins Selection on March 23, 2011, 06:43:18 AMQuote from: Miss Demeanor on March 23, 2011, 06:21:34 AM 200 miles Are you wind powered ?Have you not heard the term "Pulse jet" ?You're just bean clever there .......... Broadly, I tried.
Could end up Dwarfing other threads.
!st meeting over .....is it too early to go to the pub.......
Today I will mostly be f#cking grumpy in a very f#cking grumpy sort of way.
Dyma gopi o Fwletin Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Sir Ddinbych (rhif36) Mae'r bwletin hefyd ar gael ar wefan Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych
Rhifyn 36Cyfarfod Rhwydwaith Sector Gwirfoddol Iechyd GofalCymdeithasol a LlesCynhelir y cyfarfod nesaf ar y cyd â Rhwydwaith Plant aPhobl Ifanc gyda’r teitl “Are you Being Served?” DYDD IAU7fed Ebrill, 2011, yng Nghanolfan Naylor Leyland, Stryd yFfynnon, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 1AF. Bydd y cyfarfodyn dechrau am 10.15am a darperir cinio.Yn ystod y cyfarfod byddwn yn edrych ar effaith newidiadauhawliau lles ag yn trafod y ffordd orao i’r rhwydweithiauweithio ar ôl mis Mehefin. Cysylltwch ag unai Lindsay neuJoAnne 01824-702441 am ragor o fanylion neu i sicrhau lle.GWOBR i VICKYYn ddiweddar enillodd Vicky Ward, o Grwp IeuenctidLlanelwy, Wobr Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yng Nghymrui weithiwr ieuenctid gwirfoddol. Enwebwyd Vicky ganSuzanne Bradley, CGGSDd yn dilyn cyfnod o weithio mewnpartneriaeh i ddatblygu grwp ieuenctid, o dan arweiniadgwirfoddolwyr, yn cynnig gweithgareddau ochr yn ochr â’rGwasanaeth Ieuenctid. Cefnogwyd yr enwebiad gan RogerEllerton, Prif Swyddog IeuenctidSir Ddinbych. Cyflwynodd Vicky aSuzanne dystiolaeth i’r panelbeirniadu o ddarpariaeth polisigrymus, gwaith caled Vicky ihyrwyddo gweithgareddau’r clwbyn y wasg lleol a’i hymroddiadpersonol i ddarparu clwb sy’nagored i bobl ifanc aganableddau, ar sail cyfartal, i boblifanc yn yr ardal.Enillodd Jeanette Small,Gweithiwr Ieuenctid CymunedolDinbych, hefyd wobrRhagoriaeth. Da iawn Vicky aJeanette, ’rydym yn falch iawn o’rddwy ohonoch.2Bwletin Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Sir DdinbychGwneud eich llais yn glywadwy - Digwyddiad iofalwyrGwener 15fed o Ebrill 2011 – 10.00 am - 3.30pmCanolfan Busnes Conwy, Cyffordd LlandudnoBore 10.00 - 12.30Sut mae gofalwyr yn gallu gwneud gwahaniaeth i’r ffordd maegwasanaethau lleol yn cael eu cynllunio a’u darparu.Gweithdy – edrych ar sut gall gofalwyr fod yn rhan o newid er lles. Byddenghreifftiau sut mae gofalwyr yn gwneud gwahaniaeth yn lleol.Prynhawn 1.30 - 3.30 Hawl i HoliManiffesto Gofalwyr 2011Bydd cyfle i ofalwyr holi gwleidyddion o’r prif pleidiau fydd yn sefyll yn EtholiadCynulliad Cymru 2011.(Bydd digwyddiad y prynhawn mewn cysylltiad â Cynghrair Cynhalwyr Cymru)Gallwch fynychu’r ddau sesiwn neu dim ond un. Cysylltwch â Cynhalwyr Cymruar 029 2081 1370 neu e-bost info@carerswales.org.(Bydd tê, coffi a brechdanau ar gael rhwng 12.30 & 1.30pm i’r rhai fydd yncofrestru i’r ddau sesiwn).Gwasanaeth Gofal Ychwanegol yn yCartref yn gweithio’n dda - Ym mis Mehefin2010, cychwynnodd y Bwrdd Iechyd‘Wasanaeth Gofal Ychwanegol yn yCartref’ (HECS) newydd. Mae’r gwasanaethhwn yn caniatáu i’r Bwrdd Iechyd ddarparumwy o ofal i bobl yn eu cartrefi. I rai pobl byddhyn yn golygu na fydd angen iddynt fynd i’rysbyty, byddant yn derbyn y gofal maent eiangen yn eu cartrefi. Mae’r gwasanaeth wedicael ei redeg ar dreial am 6 mis ag wedi eiymestyn am chwe mis arall i gynnwys cleifionsydd wedi’u cofrestru ag unrhyw un o’rMeddygfeydd Teulu yn Y Rhyl a Phrestatyn.Rydym yn ddiolchgar i’r Cyngor IechydCymuned am gynnal arolwg o gleifion agofalwyr ar ran y Bwrdd Iechyd. Mae cleifionwedi canmol y gwasanaeth a dywedodd MrsJoan Horrocks o Brestatyn a gafodd eichyfeirio at y gwasanaeth ar ôl arhosiad yn yrysbyty “Ni allaf ei ganmol digon. Ar ôl i fyngofal orffen ac nid oedd angen iddynt ddodbellach, roedd fel colli teulu. Roedd y nyrsysyn hollol ffantastig. Mae’r gwasanaeth ynffordd dda o gadw pobl allan o’r ysbyty acmae llawer yn well cael gofal yn eich cartref.”Meddai Dr Eamonn Jessop, meddyg teulu ymmeddygfa Central Surgery Prestatyn,“Byddwn i’n awgrymu bod y gwasanaeth hwnyn un o’r ffyrdd ymlaen o ran darparu gofaliechyd i’r Gymuned. Mae’n golygu ein bod ynamlwg yn gallu edrych ar ôl cleifion aganghenion meddygol mwy cymhleth afyddai’n rhan o'n llwyth gwaith arferol â help ytîm HECs. Hyd yma mae’r profiad yn ardalleol y Rhyl a Phrestatyn wedi bod yn bositifiawn, a byddwn i’n annog cymaint offeddygfeydd â phosibl i gymryd rhan yn yprosiect hwn cyn gynted â phosibl, fel bodpob claf n yr ardal leol yn gallu cael budd o’rgwasanaeth ardderchog hwn. “Bydd gwerthusiad llawn o’r prosiect yn cael eigynnal ym mis Gorffennaf 2011 a fydd ynhelpu’r Bwrdd Iechyd i benderfynu ar y fforddgorau iddo barhau i ddarparu gofal yn ycartref ac yn y gymuned.3Bwletin Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Sir DdinbychY Gyllideb Iechyd a Gofal Cymdeithasol –setliad gwell na’r disgwyl, ond beth fyddhynny’n ei olygu?Ar 6 Rhagfyr, cyfarfu cynrychiolwyr y trydyddsector â'r Gweinidog dros Iechyd aGwasanaethau Cymdeithasol, a dyma oedd yrail gyfarfod a gynhaliwyd dan adain Cynllun yTrydydd Sector yn 2010. Y gyllideb ddiweddargafodd fwyaf o sylw, ond cafwyd trafodaethauynghylch cyllideb yr adran iechyd agwasanaethau cymdeithasol hefyd a'igoblygiadau i wasanaethau'r trydydd sector, rôlcompactau lleol â byrddau iechyd i sicrhau ycedwir at arferion da, a mynd i'r afael ageffeithiau cyllideb gyffredinol y DU ar gyferiechyd meddwl a chyflogaeth yng Nghymru.Eglurodd Chris Hurst, Cyfarwyddwr Adnoddau,yr Adran Iechyd a GwasanaethauCymdeithasol, Llywodraeth Cynulliad Cymru,fod y gyllideb ‘yn setliad gwell na’r disgwyl oran refeniw.’Er bod y lefel refeniw wedi’i diogelu, byddangen i’r sector cyhoeddus wneud oddeutu 10y cant o arbedion effeithlonrwydd dros dairblynedd yn sgil chwyddiant a’r galw cynyddolam wasanaethau. Bydd cyllid y GwasanaethauCymdeithasol yn cynyddu £35 miliwn erbyn2013-14. Mae'r lefelau cyfalaf wedi lleihauoddeutu traean. Byddai angen i’r byrddauiechyd ganfod y ffordd orau o ddefnyddio’radnoddau a ‘bod yn fwy creadigol amabwysiadu ymagwedd ehangach atanghenion buddsoddi’, yn enwedig o ran ynewid i leoliadau cymunedol a gofal sylfaenolac, er enghraifft, byddai disgwyl mwy o gydleolirhwng llywodraeth leol a'r trydydd sector.Cafwyd enghraifft o ymagwedd fwy creadigoldrwy eitem gan Gyswllt Amgylchedd Cymruynghylch gwneud yn fawr o fanteision ystadau’rGIG drwy ymarfer gwyrdd i staff a’r cyhoedd.Cytunodd y Gweinidog y dylid cynnal a chadwtir mewn ffordd fwy cynhwysfawr. Hwylusircyfarfod ag ystadau'r GIG i fwrw ymlaen â’rgwaith hwn.O ran cyllid ar gyfer y trydydd sector, maeAdrannau 28b a 64 cynlluniau grant yn destunadolygiad, yn enwedig o ran rhesymolitrafodion. Dywedodd y Gweinidog y bydd eihadolygiad cyffredinol wedi’i gwblhau cyngwyliau’r Nadolig. Ar ôl i'r Gweinidoggadarnhau’r cyllid, gwneir ymrwymiadau tymorhwy, ond bydd disgwyl i’r trydydd sector hefydgyfrannu at yr arbedion effeithlonrwydd, gangynnwys rhannu gorbenion a sicrhaucanlyniadau clir a mesuradwy.Gyda chydweithio yn bwysicach nawr nagerioed, mae angen telerau ymgysylltu cadarnsy'n seiliedig ar godau ymarfer y dylaicompactau lleol eu darparu, yn ogystal â chyllidi wneud hynny. Er bod Llywodraeth y Cynulliadwedi cyhoeddi arweiniad i fyrddau iechyd argompactau lleol â’r trydydd sector ynddiweddar, gofynnodd Cymdeithas CynghorauGwirfoddol Sirol Cymru am gefnogaeth isicrhau bod compactau yn cael cydnabyddiaethddigonol ym mhob sefydliad bwrdd iechyd a,phan na ddilynir y cytundeb compact, y byddhynny'n achos o dor-amod ariannol. Cytunoddy Gweinidog i weithredu system ffurfiol gyda’rbyrddau iechyd sy’n galluogi’r byrddau iechyd aChynghorau Gwirfoddol Sirol i roi gwybod amachosion tor-amod i Lywodraeth y Cynulliad.Arweiniodd Mind Cymru eitem ar effeithiaunegyddol ehangach cyllideb y DU ar gyflogaethac iechyd meddwl. Bu’r Gweinidog yn canmolpapur a oedd yn tynnu sylw at gost iechydmeddwl gwael i’r economi; y modd y mae pobleisoes yn ymwybodol o effaith diweithdra a'rffaith y gall y rheini sydd wedi’u hynysu fwyafoddi wrth waith fod yn teimlo ddwywaith yreffaith, er enghraifft aelodau o gefndiroedd pobldduon a lleiafrifoedd ethnig neu’r rheini sy’nrhan o’r system cyfiawnder; a sut gall y rheinisydd mewn swydd yn y cyfnod hwn fod danstraen.